Ffordd hawdd a chyflym o deipio ar ffôn heb orfod bodio botymau’n dragwyddol!
I deipio’r gair sut heb decstio darogan, rhaid pwyso botwm 7 pedwar gwaith i gael s, 8 ddwywaith i gael u, aros ychydig, ac yna pwyso 8 unwaith eto i gael t. Mae hynny’n dipyn o draul ar eich bawd!
Efo tecstio darogan, dim ond pwyso 7 unwaith (s), 8 unwaith (u) ac 8 unwaith eto (t) sydd ei angen.
Mae’r meddalwedd yn gweithio ar eich rhan ac yn dethol y gair priodol, gan haneru’r ymdrech sydd angen i deipio'r gair.
Mae’r animeiddiad yma’n dangos tecstio darogan ar y chwith, a tecstio di-ddarogan ar y dde: