Ysgrifennu’r neges
Ceisiwch deipio “sut wyt ti”. Dyma sut mae gwneud:
- Pwyswch 7 ar gyfer s
- 8 ar gyfer u
- 8 (eto) ar gyfer t
- * (y botwm gofod) ar gyfer y bwlch
- 9 ar gyfer w
- 9 (eto) ar gyfer y
- 8 ar gyfer t
...ac yn y blaen.
Erbyn i chi orffen, dylai’r sgrin edrych fel hyn:

Nawr, rydym am ychwanegu coma. Dyma sut:
- Pwyswch y botwm atalnodi (1 os nad ydych wedi ei newid). Bydd atalnod llawn yn ymddangos.
- Pwyswch y botwm dewis (# os nad ydych wedi ei newid) er mwyn newid o’r atalnod llawn i’r coma.
Ychwanegwch fwlch drwy bwyso’r
botwm gofod.
Rydym am i’r gair nesaf ddechrau efo prif lythyren.
Er mwyn gwneud hyn,
- Pwyswch y botwm newid allweddell (0 os nad ydych wedi ei newid).
Bydd y gair
darogan yng nghornel top chwith y sgrin yn newid i
Darogan:

Nesaf: Ychwanegu at y geiriadur
Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.