Wedi i chi agor Tecstio, bydd sgrin yn ymddangos yn gofyn am rif ffôn y person rydych am yrru’r neges ato.

Unai fe fydd rhestr o’r Contacts sydd ar eich ffôn yn ymddangos, neu bydd opsiwn fel Add from Contacts, Look up neu Search yn ymddangos. Efallai y bydd angen i chi ddewis Options gyntaf (neu’r eicon menu sydd fel arfer yn cynnig dewisiadau i chi).
Wedi i chi ddewis enw, dylai’r sgrin edrych rywbeth fel hyn:
Sgroliwch i lawr (drwy bwyso’r botwm saeth am i lawr) er mwyn dechrau teipio’r neges.
Bydd y sgrin yn newid i edrych fel yr un isod.
Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.