English

Llwytho ar Motorola V500

Y cam cyntaf yw llwytho Tecstio ar eich ffôn.

Wedi i'ch ffôn gysylltu â'r we, bydd safle WAP Tecstio yn ymddangos ar eich ffôn.

Cewch eich arwain drwy’r broses o ddewis eich ffôn.
Os yw’r meddalwedd yn barod ar gyfer eich ffôn, bydd tudalen Llwytho i lawr yn ymddangos.

Bydd manylion am y meddalwedd yn ymddangos.

Dylai'ch ffôn ddechrau llwytho Tecstio i lawr.

Mae'n bosib y bydd eich ffôn yn dangos rhywbeth fel:
Application installed, but may have limited functionality.
Peidiwch â phoeni am hyn - bydd y meddalwedd yn gweithio'n iawn.

Bydd eich ffôn yn gofyn rhywbeth fel Run Tecstio?

Bydd Tecstio yn agor, ac rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Er mwyn agor Tecstio y tro nesaf, rhaid mynd at brif sgrin eich ffôn (pwyso'r botwm ffôn coch), a phwyso'r botwm menu.
Yna, dewiswch Games & Apps (llun joystick) os yw ar gael, neu Multimedia (llun o stribed ffilm) ac yna Games & Apps os na.
Wedi gweud hynny, dewiswch Tecstio.

Defnyddio Tecstio

Unwaith mae Tecstio wedi agor, rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.