English

Llwytho ar Nokia 6300

Y cam cyntaf yw llwytho Tecstio ar eich ffôn.

Bydd y ddewislen Web options yn ymddangos.

Wedi i'ch ffôn gysylltu â'r we, bydd safle WAP Tecstio yn ymddangos ar eich ffôn.

Cewch eich arwain drwy’r broses o ddewis eich ffôn.
Os yw’r meddalwedd yn barod ar gyfer eich ffôn, bydd tudalen Llwytho i lawr yn ymddangos.

Bydd eich ffôn yn gofyn rhywbeth fel:
Application source unknown. Continue?

Bydd manylion am y meddalwedd yn ymddangos.

Dylai'ch ffôn ddechrau llwytho Tecstio i lawr.

Mae'n bosib y bydd eich ffôn yn gofyn rhywbeth fel:
Data you are sending will be redirected to another server. Continue?
Os felly, pwyswch OK.

Dylai’r geiriau Saved to Collection. Open now? ymddangos.

Er mwyn agor Tecstio y tro nesaf, rhaid mynd at brif ddewislen eich ffôn, a dewis Applications (yr un â llun o bedwar bocs). Yna dewis Collection, ac yna Tecstio.

Defnyddio Tecstio

Unwaith mae Tecstio wedi agor, rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.