English

Llwytho ar Nokia 7610

Y cam cyntaf yw llwytho Tecstio ar eich ffôn.

Wedi i'ch ffôn gysylltu â'r we, bydd safle WAP Tecstio yn ymddangos ar eich ffôn.

Cewch eich arwain drwy’r broses o ddewis eich ffôn.
Os yw’r meddalwedd yn barod ar gyfer eich ffôn, bydd tudalen Llwytho i lawr yn ymddangos.

Bydd eich ffôn yn gofyn rhywbeth fel Install Tecstio? Cytunwch i hyn.

Mae'n bosib bydd y ffôn yn dangos rhywbeth fel Application Tecstio is untrusted. Continue anyway?
Peidiwch â phoeni am hyn - dewiswch Yes.

Ar ôl gofyn ambell i gwestiwn arall, dylai'r ffôn ddechrau llwytho Tecstio i lawr.

Defnyddio Tecstio

Unwaith mae Tecstio wedi agor, rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf.

Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.