Y cam cyntaf yw llwytho Tecstio ar eich ffôn.
Bydd dewislen arall yn ymddangos
http://wap.tecstio.com ar gyfer y cyfeiriad, ac yna pwyso Options a Go.Wedi i'ch ffôn gysylltu â'r we, bydd safle WAP Tecstio yn ymddangos ar eich ffôn.
Cewch eich arwain drwy’r broses o ddewis eich ffôn.
Os yw’r meddalwedd yn barod ar gyfer eich ffôn, bydd tudalen Llwytho i lawr yn ymddangos.
Fe ddylai'ch ffôn ddechrau llwytho Tecstio i lawr.
Unwaith mae'ch ffôn wedi gorffen llwytho'r meddalwedd i lawr, mae'n bosib y bydd yn rhoi'r opsiwn i chi agor Tecstio'n syth. Os felly, cytunwch.
Os na, dyma sut i agor Tecstio (dyma fydd y camau ar gyfer agor Tecstio y tro nesaf, hefyd):
Unwaith mae Tecstio wedi agor, rydym yn barod ar gyfer y cam nesaf.
Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.