English

I bwy mae’r neges?

Wedi i chi agor Tecstio, bydd sgrin yn ymddangos yn gofyn am rif ffôn y person rydych am yrru’r neges ato.

Y sgrin Neges Newydd

Dylai fod bocs wedi ymddangos, gyda’r opsiwn Look up.

Mae problem gan ambell i ffôn Sony-Ericsson sy’n golygu fod y rhif ffôn yn ymddangos yn y bocs Neges i: am eiliad, ac yna’n diflannu!
Os digwydd hynny, dewiswch yr enw eto, ac fe ddylai aros yr ail waith.
Os nad oes modd cael at Contacts eich ffôn, darllenwch y cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio llyfr ffôn arbennig Tecstio.

Wedi i chi ddewis enw, dylai’r sgrin edrych rywbeth fel hyn:

Sgrin Neges Newydd, efo’r rhif ffôn

Sgroliwch i lawr (drwy bwyso’r botwm saeth am i lawr) er mwyn dechrau teipio’r neges.
Bydd y sgrin yn newid i edrych fel yr un isod.

Ar ambell i ffôn, mae’n rhaid sgrolio i lawr a dechrau teipio (neu pwyso Golygu), cyn i’r sgrin newid.

Sgrin Neges Newydd, yn dangos y ddewislen Opsiynau

Ni fydd Steffan Jones Cyf. na Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled na difrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo'n deillio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ddefnyddio'r feddalwedd hon nac am unrhyw ddefnydd a wneir gan unrhyw un o'r feddalwedd neu'r data sydd arni.